Make a donation

Tree Wardens

Make a donation

Tree Wardens

Loading Events

GWYBODAETH AM EIN DIGWYDDIAD:

Pryd: 26 Tachwedd 11:00 – 13:00

Ble: Planhigfa Goed Cyngor Sir Ddinbych (LL17 0LF, Fferm Green Gates, Lôn Cwttir, Llanelwy)

Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae coeden yn tyfu o hedyn?  Boed yn goeden Dderw osgeiddig neu’n Griafol y Moch pigog, mae gan bob un ei hynodrwydd a’i harbenigrwydd ei hun, er mor rhyfeddol y gallant fod, gellir hidlo eu cyfrinachau a’u lledaenu allan.

I ddathlu Wythnos Genedlaethol y Coed (21 Tachwedd – 29 Tachwedd), ymunwch â ni ar gyfer taith dywys o gwmpas Planhigfa Goed Cyngor Sir Ddinbych lle rydym yn arbenigo mewn casglu hadau coed sy’n tarddu’n lleol a’u tyfu hyd at aeddfedrwydd.

Byddwch yn cael gweld beth sy’n mynd ymlaen mewn planhigfa goed gymunedol sy’n arbenigo mewn casglu hadau sy’n tarddu’n lleol a thechnegau epiliaeth.  Wedi’i redeg gan y tîm Bioamrywiaeth ac Ecoleg o fewn Cyngor Sir Ddinbych, rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd a ddatganwyd gan Lywodraeth Cymru.  Rydym yn tyfu 35,000 o goed y flwyddyn ac mae gennym gapasiti ar gyfer 80,000 ohonynt.

Rydym yn tyfu rhywogaethau prin ac sydd mewn perygl fel yr Aethnen Ddu, yr Aethnen, y Gerddinen Wyllt a’r Bisgwydden Deilen Fach. Mae gennym hefyd dir caeedig i afancod (bydd afancod yn dod yn fuan!) yn ein gwarchodfa natur amgylchynol ble mae’r rhan fwyaf o’n coed yn cael eu plannu ar hyn o bryd.

Ymunwch â ni i weld sut rydym ni a’n gwirfoddolwyr yn mwynhau casglu a lledaenu coed o hadau i greu amryw o gyfleoedd i fioamrywiaeth sefydlu a ffynnu.

Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am ein prosiect yma: https://www.bionetwales.co.uk/cy/adref/

https://www.youtube.com/watch?v=e75b0YXq3bc

Mwy o wybodaeth am Wythnos Genedlaethol y Coed:

https://treecouncil.org.uk/seasonal-campaigns/national-tree-week/

 

 

Where: Denbighshire County Council Tree Nursery (LL17 0LF, Greengates Farm, Cwttir Lane, St. Asaph)

Ever wondered how a tree is grown from seed? Whether it’s a majestic Oak or a thorny Hawthorn rest assured they all have their quirks and peculiarities, mysterious as they may be, their secrets can be sieved through and floated out.

In celebration of National Tree Week (21st of November – 29th November), join us for a guided tour around Denbighshire County Council Tree Nursery where we specialize in collecting local provenance tree seed and growing them to maturity.

Run by the Biodiversity and Ecology team within DCC council we are dedicated to addressing the nature and climate emergency that was declared by Welsh government. We grow 35k trees per year and have a capacity of 80k.

We grow rare and endangered species such as Black Poplar, Aspen, Wild Service Tree and Small-Leaved Lime. We also have a beaver enclosure (beavers coming soon!) on our surrounding nature reserve which is where most of our trees are currently planted.

Join us to see how ourselves and volunteers lovingly collect and propagate trees from seed to create abundant opportunities for biodiversity to establish and thrive.

Find more information on our project here: https://www.bionetwales.co.uk/project/denbighshire-tree-nursery/

https://www.youtube.com/watch?v=e75b0YXq3bc

More Information about National Tree Week:

https://treecouncil.org.uk/seasonal-campaigns/national-tree-week/

Go to Top